Mae’n bryd i ni sortio hyn.
Adnodd dan sylw
Gweminarau: Cyflwyno’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru
Dyma ni’n dychwelyd gyda chyfres newydd o weminarau ar gyfer mis Tachwedd, chwe mis ar ôl cyflwyno’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.
Bydd y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithleoedd yng Nghymru wella’r ffordd y maent yn ailgylchu.
Beth sy’n newid a pham
Mae’r newydd yn ei gwneud yn ofynnol i holl weithleoedd, yn cynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector, wahanu’r deunyddiau ailgylchadwy hyn oddi wrth eu gwastraff cyffredinol.
- Bwyd dros ben neu wastraff a gafodd ei greu drwy baratoi bwyd
- Papur a cherdyn fel hen bapurau newydd ac amlenni, blychau dosbarthu a phecynnu
- Metel, plastig, a chartonau a deunyddiau pacio eraill tebyg (er enghraifft, cwpanau coffi)
- Gwydr fel poteli diodydd a jariau bwyd
- Tecstilau heb eu gwerthu fel dillad a nad ydynt yn ddillad
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)
Mae’n orfodol i weithleoedd drefnu casgliad ar wahân ar gyfer y deunyddiau hyn, er mwyn iddynt gael eu hailgylchu’n effeithlon.
Barod i ddechrau arni?
Ym mha sector mae eich gweithle chi?
Canllawiau i sicrhau bod eich gweithle’n cydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau newydd. Os ydych chi’n ystyried bod eich busnes yn BBaCh, mae’n werth gwirio’r canllawiau ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig hefyd.
Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru.
Cymru yw ail genedl orau’r byd am ailgylchu gwastraff o aelwydydd ar hyn o bryd.
Y nod yw datblygu ar lwyddiant ailgylchu o gartrefi a sicrhau cyfraddau ailgylchu uchel mewn gweithleoedd hefyd.
Dyma fanteision ailgylchu:
cynyddu faint o ddeunydd eilgylch y gall cynhyrchwyr yng Nghymru ei ddefnyddio, ac yn gwella’i ansawdd;
cefnogi gweithleoedd i leihau eu gwastraff;
lleihau allyriadau carbon;
helpu’r economi greu Cymru werddach.
Cyfradd ailgylchu 65%
o’r deunydd gwastraff a gesglir gan ein hawdurdodau lleol
400,000 o dunelli
o allyriadau carbon wedi’u harbed bob blwyddyn