Canllawiau ar gyfer
Lletygarwch a bwyd
Trosolwg

Adnoddau

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

Os ydych chi’n rhedeg gwesty ac yr hoffech fesur eich gwastraff, mae’r Fethodoleg Mesur Gwastraff Gwestai yn cynnig dull cyffredin ar gyfer casglu data gwastraff, a mesur ac adrodd ar wastraff.

Cytundeb gwirfoddol yw Ymrwymiad Courtauld 2030, a gynhelir gan WRAP, ar draws cadwyn fwyd y DU gyfan i gyflawni lleihad mewn gwastraff bwyd, nwyon tŷ gwydr (NTG) a straen dŵr ar o’r fferm i’r fforc.

Mae deunydd pacio plastig yn y diwydiant lletygarwch a gwasanaethau bwyd yn cynnig nifer o heriau a chyfleoedd, mae gan yr UK Plastic Pact bedwar targed sy’n gweithio tuag at fyd sy’n rhoi gwerth ar blastig. Mae camau y gallwch eu cymryd i gyflawni’r targedau hyn.

Mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd yn cynnig camau i’ch helpu i leihau gwastraff bwyd. I weld beth mae eraill wedi’i wneud, ewch i Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd.

Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer beth i’w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub helpu.

Dewis sector arall