Canllawiau ar gyfer
Lletygarwch a bwyd
Trosolwg

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

Er mwyn deall y gwahanol fathau o wastraff y mae eich gweithle yn ei gynhyrchu, gwnewch archwiliad gwastraff trwy gerdded trwy'r gwahanol fannau yn eich eiddo, e.e., swyddfeydd, ceginau, caffis ar y safle, mannau paratoi bwyd, storfeydd, a mannau danfon, i archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol, ac i amlygu unrhyw ymdrechion lleihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith. Meddyliwch hefyd am y bobl a fydd yn defnyddio eich cyfleusterau a'r mathau o wastraff y gallent ei gynhyrchu.

Ar eich eiddo, mae’r mannau sy’n fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff yn cynnwys:

  • Ceginau, caffis ar y safle, a stondinau bwyd:

    • Mannau paratoi bwyd – bwyd (gwastraff paratoi a bwyd wedi difetha), deunyddiau pacio fel metel, gwydr, cardbord, ffilmiau plastig a deunydd lapio.

    • Mannau bwyta bwyd – bwyd (gwastraff plât), gwastraff pecynnu fel caniau diodydd, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, cardbord, a phapur;

  • Ystafell staff/ystafell fwyta/swyddfa – papur, bwyd, a deunydd pacio;

  • Mannau cyhoeddus fel cynteddau – bwyd heb ei fwyta, gwastraff pecynnu fel caniau diod, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, cardbord a phapur;

Efallai bod mathau penodol o wastraff yr ydych yn ei greu, er enghraifft, olewau a braster coginio, sy’n galw am wasanaeth casglu gwastraff arbenigol. Os ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd bob wythnos, bydd angen ichi drefnu casgliad gwastraff bwyd ar wahân.

Dewis sector arall