Lle ar gyfer eich biniau?
Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:
yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff;
ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa;
yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy’r ydych yn eu cynhyrchu a’u storio rhwng casgliadau;
ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid
yn agos i ble caiff y gwastraff ac ailgylchu ei greu;
yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd ac
yn ddiogel ac nad ydynt yn caniatáu i wastraff neu ailgylchu ddianc.
Mae’n bwysig:
labelu eich biniau ailgylchu i osgoi halogiad. Gallwch ddefnyddio labeli oddi ar wefan y Busnes o Ailgylchu ac
atal dŵr rhag cael ei halogi gan wastraff wedi’i storio.
Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi problemau rheoli plâu.
Ar gyfer eiddo llai gyda lle cyfyngedig ar gyfer biniau, un opsiwn yw cael biniau tŵr sy’n cymryd llai o le y
chwanegol , os o gwbl, gweler llun 1 isod.
Ar safleoedd mwy, efallai y byddwch am hurio neu brynu peiriant bwndelu i lapio deunyddiau fel deunydd pacio cardbord. Bydd angen ichi wirio bod eich casglwr yn fodlon â hyn ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar bwysau’r bwndeli y gallech eu cynhyrchu. Efallai bydd eich contractwr yn gallu darparu peiriant bwndelu a hyfforddiant. Os ydych yn defnyddio peiriant bwndelu, efallai y bydd angen ichi gofrestru “esemptiad gwastraff” gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).