Canllawiau ar gyfer HOLL WEITHLEOEDD
Yn ôl i'r adran

Canllawiau ar gyfer casglu sWEEE

Beth yw sWEEE?

sWEEE yw unrhyw eitem wastraff gyda phlwg, batri neu gebl sy'n llai na 50 centimetr ar ei ymyl hiraf. Mae hyn yn cynnwys holl dechnoleg ac eitemau trydanol bach diangen eich sefydliad gan gynnwys er enghraifft, gliniaduron, ffonau, tegelli, tostwyr, dyfeisiau meddygol, lampau a goleuadau ac thŵls trydan.

Mae'r diffiniad cyfreithiol llawn, gan gynnwys rhestr o eitemau sWEEE darluniadol, i'w weld yn atodiad 5 o Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys WEEE tebyg i rai domestig fel tegelli a thostwyr yn ogystal ag eitemau mwy arbenigol annomestig fel dyfeisiau meddygol llaw ac offerynnau ac offer diwydiannol.

Mae adran 5 o'r Cod Ymarfer yn rhoi manylion pellach ynghylch pa safleoedd sydd wedi'u rhwymo o dan y Gyfraith.