Bydd Wych. Ailgylcha. Pecyn adnoddau partneriaid am ddim
Gwyddom fod pobl yn wych am ailgylchu gartref, ond mae'n hawdd i arferion da lithro pan fyddwn ni oddi cartref, gan gynnwys yn y gwaith. Nod yr ymgyrch hon yw helpu gweithwyr ledled Cymru i ddewis y bin cywir, lle bynnag maen nhw'n gweithio, a chadw Cymru ar y trywydd iawn i symud o rif 2 yn y byd am ailgylchu i rif 1.
Cyffrous yw lansio ein pecyn adnoddau partneriaid am ddim, sydd â’i lond o gynnwys parod i'w ddefnyddio i'ch helpu i gymryd rhan, gan gynnwys:
🎬 Animeiddiadau ar gyfer y gweithle, taith ailgylchu a fideos UGC
🤳Carwsél rhyngweithiol y gellir ei sweipio
📰 Copi ar gyfer mewnrwydi a chylchlythyrau
🖼️ Posteri ac arwyddion
Mae rhywfaint o'r cynnwys cymdeithasol a fydd yn gweithio'n wych ar eich sianeli allanol hefyd, felly gallwch rannu’r neges â thrigolion a chynulleidfaoedd ehangach yn ogystal â'ch timau.
