Dulliau CNC o reoleiddio

Post blog gan CNC 16 Gorffennaf 2024

Cyflwynwyd Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 ar 6 Ebrill 2024. Mae’r gyfraith newydd hon, sy’n fwy adnabyddus fel y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes yng Nghymru gyflwyno eu gwastraff ar wahân i’w ailgylchu, mewn ffordd debyg i’r hyn y mae cartrefi eisoes yn ei wneud.

Fel rheoleiddiwr y gyfraith hon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau gweithio gyda busnesau yng Nghymru i’w cefnogi i ailgylchu yn y gweithle a lleihau eu risg o ddiffyg cydymffurfio.

Mae gennym dîm newydd Cymru gyfan o 12 swyddog i helpu busnesau a rheoleiddio’r gofynion newydd hyn. Caiff ein hymagwedd at reoleiddio ei lywio gan God y Rheoleiddwyr ac fe'i nodir yn ein Hegwyddorion Rheoleiddio. Mae hyn yn golygu:

  • ein bod yn canolbwyntio ar ganlyniadau amgylcheddol,

  • bod ein hymagwedd yn seiliedig ar dystiolaeth a risg,

  • ein bod yn defnyddio'r ystod lawn o offer rheoleiddio sydd ar gael i ni.

Ein ffocws cychwynnol yw sicrhau bod busnesau a chasglwyr yn ymwybodol o'r gofynion gwahanu gwastraff a sut mae'n berthnasol iddynt. Lle mae angen cymorth, byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi busnesau i gydymffurfio â’r rheoliadau.

Rydym yn cydnabod maint y newid hwn ac yn gwerthfawrogi’r ymdrechion y mae busnesau eisoes wedi’u gwneud i ailgylchu’n well yng Nghymru. Deallwn hefyd y gall fod cyfnod o ymgynefino a pheth oedi wrth archebu cerbydau casglu neu finiau er enghraifft, ond rydym am weld bod busnesau a chasglwyr yn cydymffurfio â’r rheoliadau neu’n cymryd camau tuag at gydymffurfio.

Rydym wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a monitro cydymffurfiaeth, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Lle byddwn yn canfod achosion o ddiffyg cydymffurfio, yn unol â'n Polisi Gorfodi a Sancsiynau, byddem yn ystyried yr amgylchiadau ym mhob achos unigol i benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf cymesur a phriodol.

Gallwn gynnig cyngor ac arweiniad fel ymateb cyntaf ar y camau y mae angen i chi eu cymryd i fodloni eich rhwymedigaethau cyfreithiol. Lle nad oes unrhyw ymgais yn cael ei gwneud i gymryd camau i gydymffurfio neu ei bod yn amlwg fod y rheolau’n cael eu hanwybyddu, mae gennym nifer o arfau gorfodi ar gael i ni a phwerau i gymryd ymagwedd mwy cadarn lle bo angen, gan gynnwys sancsiynau sifil ac achosion troseddol.

Yn ôl i Adnoddau