Canllawiau ar gyfer
HOLL WEITHLEOEDD
Trosolwg

Sut bydd y gyfraith yn cael ei gorfodi

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod deunyddiau yn cael eu gwahanu a’u casglu’n gywir, a bod y gwaharddiad ar anfon ailgylchu i dirlenwi neu i’w losgi yn cael ei ddilyn.

Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y gwaharddiad ar wastraff bwyd yn mynd i garthffosydd yn cael ei ddilyn.

Os nad ydych yn cydymffurfio â’r gyfraith, gallai olygu dirwy i’ch gweithle.

Pwy sy’n gyfrifol am ddilyn y gyfraith newydd?

Bydd yn ofynnol i bob gweithle yng Nghymru ddilyn y gyfraith newydd. Mae’n bosibl mai’r busnes fydd perchennog yr eiddo, neu efallai eu bod yn ei brydlesu neu ei rentu, neu yn ei feddiannu dros dro.

Y rhai sy’n meddiannu’r gweithle sy’n gorfod sicrhau bod ailgylchu yn cael ei wahanu ar gyfer ei gasglu. Os bydd nifer o weithleoedd yn rhannu lleoliad, mae pob busnes unigol yn gyfrifol ond efallai y bydd angen iddynt gytuno gyda landlord neu reolwr cyfleusterau os oes angen system ailgylchu ganolog.

Dewis sector arall