Canllawiau ar gyfer
HOLL WEITHLEOEDD

Sut i baratoi

Mae’n bwysig darllen y Cod Ymarfer ar Gasglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân i’w Hailgylchu sy’n manylu ymhellach ar sut i gydymffurfio â’r gyfraith i wahanu gwastraff a’i gadw ar wahân i’w ailgylchu.

Gofalwch eich bod yn gwirio’r rhestrau o ddeunyddiau y cewch ac na chewch eu cymysgu. Dyma rai camau gweithredu y dylech ddechrau arnynt:

1. Cynnal sgwrs gyda’ch casglwr ailgylchu a gwastraff

Gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu casglu eich ailgylchu wedi’i wahanu. Efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â chasglwyr gwastraff eraill i ddewis y gwasanaethau mwyaf addas i chi am y pris gorau.

Dyletswydd Gofal

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n creu gwastraff neu’n ei drin ei gadw’n ddiogel, gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ymdrin ag ef mewn modd cyfrifol, a dim ond yn cael ei roi i fusnesau sydd wedi’u hawdurdodi i’w gymryd. Gelwir hyn yn ‘Ddyletswydd Gofal’.

Mae’n bwysig eich bod yn deall y Ddyletswydd Gofal a’r gyfraith newydd i sicrhau eich bod yn bodloni eich ymrwymiadau yn ôl y gyfraith.

2. Edrychwch ar ble, sut a pham mae gwastraff yn cael ei greu ar eich eiddo.

A allwch chi ailddefnyddio unrhyw eitemau cyn eu rhoi yn y bin ailgylchu? Efallai y gallech newid sut rydych yn prynu nwyddau er mwyn helpu i leihau faint o wastraff rydych yn ei greu yn y lle cyntaf. Ystyriwch a allwch chi leihau’r deunyddiau a ddefnyddiwch a allai fod yn anodd eu hailgylchu.

Dylunio i ddiddymu gwastraff

Efallai y byddwch yn gallu dychwelyd deunydd pacio i’ch cyflenwyr i’w ailddefnyddio neu ei ailgylchu.

Wrth i fwy o wastraff gael ei ailgylchu, gallech leihau maint eich cynwysyddion gwastraff cyffredinol neu amlder eu casglu. Mae’n bosibl y gallai yn arbed arian i chi.

3. Ystyriwch pa finiau mewnol ac allanol y gallai fod eu hangen arnoch.

Edrychwch ar y cynwysyddion y bydd eu hangen arnoch ar gyfer pob un o’r gwahanol ddeunyddiau ailgylchu y tu mewn a’r tu allan i’ch eiddo. Dylai eich casglwr gwastraff allu rhoi cyngor ichi ar y cyfuniad gorau o gynwysyddion allanol a pha mor aml y byddant yn cael eu casglu. Mae’n well, ac yn aml yn haws, gwahanu deunyddiau i’w hailgylchu cyn gynted ag y maent wedi cael eu defnyddio, yn hytrach na cheisio eu gwahanu’n hwyrach ymlaen. Rhaid gwahanu’r mathau gwahanol o ddeunyddiau ailgylchu er mwyn i’ch casglwr gwastraff allu eu cludo ymaith. Ceisiwch wneud ailgylchu yn haws i staff ac ymwelwyr na rhoi pethau yn y bin gwastraff cyffredinol.

Cynwysyddion a storio ailgylchu

Nid yw pob darparwr gwasanaeth gwastraff yn codi ffi am hurio biniau. Os bydd y gyfraith newydd yn golygu bod angen rhagor o finiau arnoch, yna bydd angen ichi ystyried hynny o fewn eich costau.

Mae rhai casglwyr gwastraff bwyd arbenigol yn cynnig gwasanaeth sy’n cyfnewid biniau llawn am finiau gwag.

Gwnewch yn siŵr bod eich biniau y tu allan wedi’u labelu’n addas a’u bod yn ddiogel.

4. Siaradwch gyda’ch staff er mwyn iddyn nhw gael gwybod am y gyfraith newydd.

Efallai y bydd ganddyn nhw syniadau am sut i wneud i bethau weithio. Bydd deunyddiau fel posteri, arwyddion ar gyfer biniau, a deunyddiau hyfforddiant staff ar gael i’ch helpu. Bydd gwneud newidiadau yn eich busnes neu sefydliad yn haws os bydd pobl yn deall pam mae pethau’n newid.

Cliciwch yma i weld yr holl ddeunyddiau templed.

5. Gwnewch yn siŵr bod eich biniau ailgylchu’n hygyrch.

Mae’n bwysig bod eich biniau’n hygyrch i’ch holl gwsmeriaid, er enghraifft, eu rhoi mewn lleoedd sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwynion.

6. Meddyliwch am iechyd a diogelwch staff.

Ceisiwch wneud yn siŵr bod eich dull o storio gwastraff a sut rydych yn ei symud yn lleihau’r perygl o ddamweiniau. Mae’n bwysig bod biniau, a mannau storio gwastraff, o’r maint iawn, yn hawdd eu cyrraedd, yn hawdd eu symud, ac nad ydyn nhw’n rhwystro allanfeydd argyfwng. Mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau ar y cynwysyddion a gedwir y tu allan i’ch eiddo felly byddwch yn ymwybodol o hyn, gan ei bod yn debygol y bydd gennych fwy o finiau’n cael eu casglu.

Dewis sector arall