Beth yw’r gyfraith newydd?
Bydd angen i weithleoedd wahanu’r deunyddiau a restrir isod ar gyfer eu hailgylchu. Bydd angen hefyd i weithleoedd drefnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall.
Papur a cherdyn;
Gwydr;
Metel, plastig, a chartonau a deunyddiau eraill tebyg (er enghraifft, cwpanau coffi);
Bwyd – dim ond ar gyfer mannau sy’n creu mwy na 5kg yr wythnos o wastraff bwyd;
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (sWEEE) bach heb eu gwerthu; a
Tecstilau heb eu gwerthu.
Ni chaniateir rhoi eich holl wastraff mewn un bin os bydd unrhyw rai o’r deunyddiau hyn ynddo.
Rhaid cadw pob grŵp deunyddiau ar wahân i’w gilydd. Er enghraifft, rhaid casglu gwydr ar ei ben ei hun, ond caiff gweithleoedd gasglu metel, plastig a chartonau gyda’i gilydd mewn un cynhwysydd. Cyn rhoi eitemau yn y biniau ailgylchu, ystyriwch a allech eu hailddefnyddio at ddiben gwahanol.
Gwaharddiadau ar sut i gael gwared ar fwyd a gwastraff
Mae’r gyfraith newydd hefyd yn cynnwys gwaharddiadau ar:
anfon gwastraff bwyd i garthffosydd (unrhyw swm);
unrhyw wastraff sydd wedi’i wahanu i’w ailgylchu rhag mynd i dirlenwi neu i gyfleusterau llosgi (heblaw'r rhan fwyaf o decstilau, sy’n cael mynd i gyfleusterau llosgi, heblaw am decstilau heb eu gwerthu, nad ydynt yn cael mynd i losgi na thirlenwi); ac
anfon unrhyw wastraff bwyd i dirlenwi.
Ar gyfer gweithleoedd sy’n creu ac yn trin gwastraff bwyd
Mae’r gyfraith i wahanu ac ailgylchu gwastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw eiddo sy’n creu mwy na 5kg o wastraff bwyd fesul wythnos, fel:
gwestai
bwytai
caffis
tecawês
busnesau arlwyo (yn cynnwys y rhai mewn digwyddiadau fel stondinau bwyd)
neuaddau bwyta mewn canolfannau siopa
ffreuturau
tafarndai
swyddfeydd gyda ffreuturau, caffis, neu gyfleusterau cegin i’w staff
ysgolion, colegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai
unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd
Os ydych chi’n creu unrhyw wastraff bwyd, ni fyddwch yn cael ei roi i lawr y sinc, na’i arllwys i ddraen neu garthffos gyhoeddus.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio mwydwyr (neu dechnolegau cyffelyb fel treulwyr ensymau neu ddulliau tynnu dŵr) i gael gwared ar wastraff bwyd lawr y sinc i ddraen neu garthffos. Nid oes angen tynnu mwydwyr, ond gallech ddewis eu tynnu i atal staff rhag eu defnyddio.
Adnoddau
Food waste reduction roadmap toolkit
Yn helpu busnesau bwyd gymryd camau wedi'u targedu i leihau gwastraff bwyd yn eu gweithrediadau eu hunain, yn eu cadwyn gyfleni a gan ddefnyddwyr. (Sylwch: mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.)
Guardians of grub
Gwybodaeth ar sut i reoli eich gwastraff bwyd a allai helpu eich gweithle.