Canllawiau ar gyfer
Busnesau bach a chanolig (SME)
Trosolwg

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i leihau eich gwastraff:

  • Rhoddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim. Rhowch eitemau eraill dros ben (er enghraifft deunydd ysgrifennu) i ysgolion neu ‘siop sgrap’ leol. Mae canllaw ar gael ar Sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd;

  • Prynwch nwyddau eilgylch, nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio pan bynnag fo’n bosibl;

  • Darparwch ffynhonnau dŵr i staff eu defnyddio a stocio cyfleusterau cegin (os darperir hwy) gyda chwpanau, llestri ac offer y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na dewisiadau tafladwy untro

  • Gofynnwch i'ch cyflenwyr ddefnyddio'r deunydd pacio cludo dychweladwy y maent yn ei gasglu gennych y tro nesaf y byddant yn danfon nwyddau i chi a

  • Ystyriwch ffyrdd o fynd yn ddi-bapur:

    • Gosod gosodiadau argraffu a llungopïo diofyn i ‘ddwy ochr’,

    • Ebostio dogfennau yn hytrach nag argraffu,

    • Monitro meintiau argraffu a llungopïo, gan osod targedau lleihau ar gyfer aelodau staff, neu

    • Defnyddio dulliau marchnata di-bapur.

Efallai y bydd cost ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn i rai gweithleoedd, ond gallai cynyddu faint rydych yn ei ailgylchu leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor canolig i’r tymor hir. Gan fod y gyfraith hon yn berthnasol i holl weithleoedd, bydd yn cael ei ystyried fel rhan o fodelau busnes a rheoli.

Os ydych eisoes yn casglu ac ailgylchu’r holl ddeunyddiau fel sy’n angenrheidiol dan y gyfraith newydd, efallai na fydd rhaid ichi wneud unrhyw beth arall. Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer i wneud yn hollol siŵr eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae hyn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o bethau y mae’n rhaid eu hailgylchu.

Dewis sector arall