Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
I gael gwybod am y gwahanol fathau o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu, gallech gynnal archwiliad gwastraff.
Ymhlith y meysydd o fewn gweithle sydd fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff mae:
ystafell staff/ystafell fwyta – papur, bwyd, a deunyddiau pacio;
swyddfa – papur, bwyd, a deunydd pacio ac
warysau/ystafelloedd stoc – deunydd pacio fel cardbord, ffilmiau plastig a deunydd lapio.
Gan ddibynnu ar eich busnes, efallai y bydd mathau o wastraff y byddwch yn eu cynhyrchu, er enghraifft stoc wedi'i ddifrodi, a allai fod yn beryglus ac a allai fod angen gwasanaeth casglu gwastraff arbenigol.
Ystyriwch a ydych chi’n cynhyrchu gwahanol fathau neu symiau o wastraff gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn fwy tebygol os yw’r tywydd neu’r tymhorau’n effeithio ar eich busnes e.e. y Nadolig neu wyliau eraill neu’r rhai sy’n gysylltiedig â thwristiaeth.