Canllawiau ar gyfer
Manwerthu
Trosolwg

Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd

Os ydych eisoes yn casglu ac ailgylchu’r holl ddeunyddiau fel sy’n angenrheidiol dan y gyfraith newydd, efallai na fydd rhaid ichi wneud unrhyw beth arall. Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae hyn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o bethau y mae’n rhaid eu hailgylchu;

Busnesau annibynnol:

Os ydych yn gweithredu eich busnes yn annibynnol, eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi gwasanaeth ar waith a sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith newydd.

Canolfannau siopa neu leoliadau a reolir:

Os ydych o fewn lleoliad a reolir, fel canolfan siopa, neuadd fwyd neu farchnad, yna mae’n bosibl y bydd gwasanaethau rheoli gwastraff yn cael eu caffael gan gwmni rheoli cyfleusterau. Dylech gysylltu â nhw i gael gwybod am unrhyw newidiadau y byddant yn eu gwneud.

Safleoedd masnachfraint neu sefydliadau mwy:

Os ydych yn rhan o sefydliad mwy, cadwyn neu fenter masnachfraint, yna efallai bod gwasanaethau rheoli gwastraff yn cael eu trefnu’n genedlaethol neu’n rhanbarthol, a’r brif swyddfa neu swyddfa ranbarthol yn darparu gwybodaeth a chanllawiau. Dylech gysylltu â nhw i gael gwybod am unrhyw newidiadau y byddant yn eu gwneud.

Dewis sector arall