Canllawiau ar gyfer
Manwerthu

Lle ar gyfer eich biniau?

Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:

  • yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff,

  • ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa,

  • yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy’r ydych yn eu cynhyrchu a’u storio rhwng casgliadau,

  • ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid,

  • yn agos i ble caiff y gwastraff ac ailgylchu ei greu,

  • yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd, ac

  • yn cael eu diogelu gyda chaeadau sy’n cau’n sownd, ac nad ydynt yn caniatáu i wastraff neu ailgylchu ddianc.

Mae’n bwysig:

  • labelu eich biniau ailgylchu i osgoi halogiad. Gallwch ddefnyddio labeli oddi dudalen Adnoddau a

  • atal dŵr rhag cael ei halogi gan wastraff wedi’i storio.

Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi problemau rheoli plâu. Ar safleoedd mwy, efallai y byddwch am hurio neu brynu peiriant bwndelu i gywasgu deunyddiau fel deunydd pacio cardbord. Bydd angen ichi wirio a yw eich casglwr yn fodlon â hyn ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar bwysau’r bwndeli y gallech eu cynhyrchu. Efallai bydd eich contractwr yn gallu darparu peiriant bwndelu a hyfforddiant. Os ydych yn defnyddio peiriant bwndelu, efallai y bydd angen ichi gofrestru “esemptiad gwastraff” gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Dewis sector arall