Canllawiau ar gyfer
Manwerthu
Trosolwg

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i leihau eich gwastraff:

  • Rhoddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim. Mae Canllaw ar gael ar Sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd – (www.gov.uk).

  • Defnyddiwch ddulliau marchnata di-bapur a chynhigiwch dderbynebau di-bapur drwy eu hanfon i gwsmeriaid drwy ebost;

  • Prynwch nwyddau eilgylch, nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio pan bynnag fo’n bosibl a

  • Darparu ffynhonnau dŵr i staff.

Efallai y bydd cost ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn i rai gweithleoedd, ond gallai cynyddu faint rydych yn ei ailgylchu leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor canolig i’r tymor hir. Gan fod y gyfraith hon yn berthnasol i holl safleoedd manwerthu, bydd yn cael ei ystyried fel rhan o fodelau busnes a rheoli.

Dewis sector arall