Canllawiau ar gyfer
Manwerthu
Trosolwg

Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd

  • Beth yw swm neu fath y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu’n rheolaidd? A yw hynny’n newid yn ystod y flwyddyn? Er enghraifft, cynnydd dros gyfnod y Nadolig neu wyliau ysgol. Efallai bydd angen i’ch gwasanaeth casglu, yn cynnwys y nifer o finiau a pha mor aml y bydd angen eu gwagio, fod yn hyblyg;

  • Ystyriwch a fydd cael casgliadau ar ddyddiau penodol yn yr wythnos, e.e. ar ôl penwythnosau prysur, yn helpu i atal gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu rhag pentyrru;

  • Efallai mai ychydig yn aml fydd yn gweithio’n well i chi. Mae’r rhan fwyaf o gasglwyr gwastraff yn cynnig cynwysyddion o wahanol feintiau, yn cynnwys sachau ar gyfer rhai mathau o wastraff. Unwaith y byddwch yn dechrau ailgylchu, efallai y byddwch yn gallu lleihau maint eich bin gwastraff cyffredinol;

  • Os nad oes gennych lawer o le ar gyfer cynwysyddion y tu allan, a allech rannu biniau gyda busnesau eraill i helpu lleihau costau a lle? Cofiwch, ni ellir storio cynwysyddion gwastraff ar briffyrdd cyhoeddus rhwng casgliadau;

  • Siaradwch gyda’ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd a sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn cydymffurfio a

  • Gallech hefyd gael dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr er mwyn cael y pris gorau a’r gwasanaeth sy’n fwyaf addas i chi.

Os gwneir cais, mae’n rhaid i gynghorau drefnu gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu i chi. Mae cost am y gwasanaethau hyn. Mewn ardaloedd gwledig, efallai y gwelwch fod yr opsiynau ar gyfer gwastraff ac ailgylchu’n fwy cyfyngedig, ac mai dim ond cynghorau sir fydd yn darparu gwasanaeth casglu i chi, yn enwedig os nad ydych yn cynhyrchu llawer o wastraff.

Os ydych chi wedi’ch lleoli yn un o’r 14 Ardal Gwella Busnes (AGB) yng Nghymru, efallai y gwelwch fod gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu y gallwch eu defnyddio yn bodoli eisoes.

Dewis sector arall