Mae’n bryd i ni sortio hyn.
Adnodd dan sylw
Gweminarau i ddod: Cofleidiwch y newidiadau deddfwriaethol sydd ar y gorwel yng Nghymru
Mae'r gyfres hon o weminarau yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i'r rheoliadau gwastraff, ag archwiliad manwl o’r gofynion ar bob sector i gydymffurfio â'r gyfraith newydd.
Bydd y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithleoedd yng Nghymru wella’r ffordd y maent yn ailgylchu.
Beth sy’n newid a pham
Mae’r cyfraith newydd yn ei gwneud yn ofynnol i holl weithleoedd, yn cynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector, wahanu’r deunyddiau ailgylchadwy hyn oddi wrth eu gwastraff cyffredinol.
- Bwyd dros ben neu wastraff a gafodd ei greu drwy baratoi bwyd
- Papur a cherdyn fel hen bapurau newydd ac amlenni, blychau dosbarthu a phecynnu
- Metel, plastig, a chartonau a deunyddiau pacio eraill tebyg (er enghraifft, cwpanau coffi)
- Gwydr fel poteli diodydd a jariau bwyd
- Tecstilau heb eu gwerthu fel dillad a nad ydynt yn ddillad
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)
![Glass bottles](/_next/image?url=%2F_next%2Fstatic%2Fmedia%2Fglass.9b577a57.png&w=1440&q=75)
![Metal cans](/_next/image?url=%2F_next%2Fstatic%2Fmedia%2Fcans.33a53426.png&w=1440&q=75)
![Plastic bottles](/_next/image?url=%2F_next%2Fstatic%2Fmedia%2Fbottles.da4b0e60.png&w=1440&q=75)
![Waste paper](/_next/image?url=%2F_next%2Fstatic%2Fmedia%2Fpaper.d79e74bf.png&w=1440&q=75)
![Food waste](/_next/image?url=%2F_next%2Fstatic%2Fmedia%2Ffood.a0c3ac5e.png&w=1440&q=75)
![Cardboard](/_next/image?url=%2F_next%2Fstatic%2Fmedia%2Fcardboard.a636aacb.png&w=1440&q=75)
Mae’n orfodol i weithleoedd drefnu casgliad ar wahân ar gyfer y deunyddiau hyn, er mwyn iddynt gael eu hailgylchu’n effeithlon.
Ym mha sector mae eich gweithle chi?
Canllawiau i sicrhau bod eich gweithle’n cydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau newydd. Os ydych chi’n ystyried bod eich busnes yn BBaCh, mae’n werth gwirio’r canllawiau ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig hefyd.
Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru.
Cymru yw trydedd genedl orau’r byd am ailgylchu gwastraff o aelwydydd ar hyn o bryd.
Y nod yw datblygu ar lwyddiant ailgylchu o gartrefi a sicrhau cyfraddau ailgylchu uchel mewn gweithleoedd hefyd.
Dyma fanteision ailgylchu:
cynyddu faint o ddeunydd eilgylch y gall cynhyrchwyr yng Nghymru ei ddefnyddio, ac yn gwella’i ansawdd;
cefnogi gweithleoedd i leihau eu gwastraff;
lleihau allyriadau carbon;
helpu’r economi greu Cymru werddach.
Cyfradd ailgylchu 65%
o’r deunydd gwastraff a gesglir gan ein hawdurdodau lleol
400,000 o dunelli
o allyriadau carbon wedi’u harbed bob blwyddyn