Busnesau bach a chanolig (SME)
Help i’ch busnes ar bob cam o’r siwrne.
Canllawiau ar gyfer y sector busnesau bach a chanolig (sme)
Newid sectorDylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun.
Mae’n cynnwys gweithleoedd ar draws amrywiaeth o sectorau, fel swyddfeydd, manwerthu a lletygarwch.Mae canllawiau ar wahân ar gael ar gyfer y sectorau canlynol a allai hefyd gael eu dosbarthu fel SME a allai fod yn ddefnyddiol i chi:
- Lletygarwch a gwasanaethau bwyd;
- Manwerthu;
- Lleoliadau preswyl (yn cynnwys cartrefi gofal);
- Digwyddiadau awyr agored (er enghraifft, gwyliau) a
- Cyfleusterau adloniant a hamdden (yn cynnwys gwersylloedd, chalets, cabanau, gwestai, carafanau).
Trosolwg o’r cynnwys
Pam mae angen ichi ailgylchu?
O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith newydd yn golygu bydd yn rhaid i holl weithleoedd gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i’w hailgylchu a threfnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall.
Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
I gael gwybod am y gwahanol fathau o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu, gallech gynnal archwiliad gwastraff trwy archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol a nodwch unrhyw ymdrechion lleihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith i helpu i nodi cyfleoedd pellach ar gyfer atal gwastraff ac ailgylchu.
Atal gwastraff yn y lle cyntaf
Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch.
Sefydlu ailgylchu ar draws eich sefydliad
I fusnesau bach a chanolig, yr her fwyaf yn aml yw dod o hyd i'r amser i wneud newidiadau angenrheidiol pan gyflwynir rheolau neu reoliadau newydd. Mae'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn ofyniad cyfreithiol ac felly perchennog y busnes fydd yn gyfrifol am gydymffurfio. Gallai peidio â chydymffurfio arwain at roi dirwyon.
Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd
Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae’n werth ystyried y canlynol:
Lle ar gyfer eich biniau?
Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu.
Gwastraff bwyd a hylendid
Mae canllawiau ar wastraff bwyd i’ch helpu i waredu eich gwastraff yn gywir er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith Dyletswydd i Ofalu bresennol.
Syniadau ar hyfforddi staff
Defnyddiwch ein hadnoddauwrth ymgysylltu â'ch gweithwyr, cleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti.
Adnoddau
Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol