Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
Er mwyn deall y gwahanol fathau o wastraff y mae eich gweithle yn ei gynhyrchu, gwnewch archwiliad gwastraff trwy gerdded trwy'r gwahanol fannau yn eich eiddo, e.e., swyddfeydd, ceginau, caffis ar y safle, ystafelloedd clwb a lolfeydd, mannau paratoi bwyd, storfeydd, a mannau dosbarthu, i archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol, ac i amlygu unrhyw ymdrechion lleihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith. Meddyliwch hefyd am y bobl a fydd yn defnyddio eich cyfleusterau a'r mathau o wastraff y gallent ei gynhyrchu.
Ar eich eiddo, mae’r mannau sy’n fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff yn cynnwys:
Ceginau, caffis ar y safle, a stondinau bwyd:
Mannau paratoi bwyd – bwyd (difetha a gwastraff paratoi), deunyddiau pacio fel metel, gwydr, cardbord, ffilmiau plastig a deunydd lapio.
Mannau bwyta bwyd – bwyd (gwastraff plât), gwastraff pecynnu fel caniau diodydd, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, cardbord, a phapur;
Ystafell staff/ystafell fwyta/swyddfa – papur, bwyd, a deunydd pacio;
Mannau cyhoeddus fel cynteddau, neuaddau a siopau anrhegion – bwyd heb ei fwyta, gwastraff pecynnu fel caniau diod, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, cardbord a phapur;
Siopau anrhegion – papur a deunyddiau pecynnu fel cardbord, ffilmiau plastig a lapio; a thecstilau heb eu gwerthu a nwyddau trydanol bach heb eu gwerthu; a
Lletyai gwesteion a gwyliau – bwyd (gwastraff plât, paratoi a bwyd wedi difetha), gwastraff pecynnu fel caniau diodydd, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, cardbord a phapur.
Yn dibynnu ar natur benodol eich busnes a'r gwasanaethau a ddarperir gennych, efallai eich bod yn cynhyrchu gwahanol fathau o wastraff, er enghraifft, olewau coginio a brasterau, silindrau nwy gwersylla tafladwy neu fatris a fydd yn galw am wasanaeth casglu gwastraff arbenigol.
Os ydych wedi llogi eich safle o’r blaen, dylech wybod y mathau o wastraff a faint ohono sy’n debygol o gael ei gynhyrchu gan weithgareddau eich cleientiaid. Bydd hyn yn eich helpu i ganfod faint o gynwysyddion y bydd angen i chi eu cyflenwi ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy a gwastraff arall er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd.
Mwy o ganllawiau ar gyfer y sector cyfleusterau hamdden a’r sector adloniant
- Canllaw i feysydd carafanau a meysydd gwersylla
- Pam mae angen ichi ailgylchu?
- Atal gwastraff yn y lle cyntaf
- Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd
- Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd
- Lle ar gyfer eich biniau?
- Gwastraff bwyd a hylendid
- Ymgysylltu â chleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti
- Adnoddau