Canllawiau ar gyfer
Cyfleusterau hamdden a’r sector adloniant
Trosolwg

Ymgysylltu â chleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti

Wrth ymgysylltu â staff:

  • Gofynnwch am syniadau ar sut y gallai cynllun weithio, oherwydd efallai eu bod wedi sylwi ar gyfleoedd neu faterion nad ydych wedi'u hystyried;

  • Darparwch gyfarwyddiadau clir ar yr hyn y dylent ei wneud gyda gwahanol ffrydiau gwastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy i'ch helpu i gwrdd â'ch rhwymedigaethau ailgylchu newydd;

  • Darparwch hyfforddiant i weithwyr parhaol, tymhorol a dros dro. Defnyddiwch hyfforddiant sefydlu i sicrhau bod dechreuwyr newydd yn gallu ailgylchu o'r diwrnod cyntaf, gyda hyfforddiant rheolaidd a nodiadau atgoffa ar gyfer yr holl weithwyr;

  • Rhannwch wybodaeth am ailgylchu trwy ddiweddariadau rheolaidd mewn cyfarfodydd tîm ac ar hysbysfyrddau staff fel bod gweithwyr yn clywed am y gwahaniaethau y mae eu gweithredoedd yn eu gwneud a

  • Gofynnwch am adborth os nad yw systemau ailgylchu'n gweithio'n dda, sicrhewch fod gweithwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a bod materion yn cael eu nodi'n brydlon cyn iddynt achosi mwy o broblemau.

Wrth ymgysylltu â chleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti:

  • Sicrhewch fod yr holl randdeiliaid yn deall eu cyfrifoldebau o ran ailgylchu a rheoli gwastraff a darparu digon o gapasiti gwastraff i sicrhau y gallant ailgylchu fel sy’n ofynnol gan y gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle newydd.

  • Cynhwyswch leoliad biniau ailgylchu a gwastraff ar fapiau o’r lleoliad a thaflenni sy'n amlygu'r holl fannau ailgylchu a chasglu gwastraff pwrpasol gydag arwyddion clir;

  • Hyrwyddwch argaeledd gwasanaethau ailgylchu i ymwelwyr ym mhob llenyddiaeth hyrwyddo ac egluro pam y dylent eu defnyddio a

  • Sicrhewch fod pob bin wedi'i labelu'n glir fel bod defnyddwyr yn gwybod pa eitemau i'w rhoi ym mhob bin. Gwnewch finiau ailgylchu mor weladwy â phosibl gydag arwyddion clir arnynt i helpu pobl i ddefnyddio'r biniau cywir. Gall wardeniaid ailgylchu fonitro cynwysyddion i sicrhau nad yw ymwelwyr yn achosi halogiad.

Gofynnwch i'ch casglwr gwastraff ac ailgylchu am wybodaeth ar faint o wastraff rydych chi'n ei gynhyrchu a faint sydd wedi'i ailgylchu. Defnyddiwch y wybodaeth hon i adolygu sut y gallech gynyddu ailgylchu a gosod targedau i leihau gwastraff neu ailgylchu mwy. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon hefyd i hyrwyddo eich llwyddiannau ailgylchu i'r gymuned leol, eich ymwelwyr, a chleientiaid i atgyfnerthu pam mae ailgylchu mor bwysig.

Defnyddiwch ein hadnoddau wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr, cleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti.