Canllawiau ar gyfer
Cyfleusterau hamdden a’r sector adloniant
Trosolwg

Lle ar gyfer eich biniau?

Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:

  • yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff;

  • ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa;

  • yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy’r ydych yn eu cynhyrchu a’u storio rhwng casgliadau;

  • ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid;

  • yn agos i'r man lle mae'r gwastraff a'r ailgylchu'n cael ei gynhyrchu, h.y., mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o bobl yn ymweld â'r mynedfeydd neu'r allanfeydd, mannau cymunedol, cynteddau, wrth ymyl consesiynau, mannau paratoi bwyd, wrth ymyl y cyfleusterau mewn gwersylloedd;

  • yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd ac

  • yn cael eu diogelu gyda chaeadau sy’n cau’n sownd, ac nad ydynt yn caniatáu i wastraff neu ailgylchu ddianc.

Mae’n bwysig:

  • labelu eich biniau ailgylchu i osgoi halogiad. Gallwch ddefnyddio labeli oddi dudalen Adnoddau a

  • atal dŵr rhag cael ei halogi gan wastraff wedi’i storio.

Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi problemau rheoli plâu.

Chi sy’n gyfrifol am asesu risgiau sy'n gysylltiedig â storio, trin neu ddefnyddio gwastraff, a rhoi mesurau rheoli effeithiol ar waith i osgoi a rheoli unrhyw risgiau a nodwyd. Gallai’r peryglon sy’n gysylltiedig â rheolaeth gwastraff gwael gynnwys:

croniadau o wastraff sy’n rhwystro mynediad brys neu lwybrau dianc, sy’n achosi peryglon baglu neu dân ac yn denu fermin. Mae’r rhain oll yn peri risgiau iechyd a diogelwch – sicrhewch fod mannau storio gwastraff wedi’u lleoli i oddi wrth ffynonellau fflamadwy a bod deunyddiau fflamadwy fel cardbord yn cael eu storio mewn cynwysyddion wedi’u selio neu ddiogel;

cerbydau casglu gwastraff yn croesi ardaloedd neu lwybrau lle mae llawer o bobl yn ymweld. Gall hyn fod yn beryglus – yn ddelfrydol sicrhewch fod casgliadau’n digwydd pan fo’r safle heb ymwelwyr arno. Os nad yw hynny’n bosibl, dylid casglu yn ystod cyfnodau tawelach a dylid defnyddio “bancwr” neu gynorthwyydd ar gyfer bacio’n ôl, ac

anafiadau i weithwyr o ganlyniad i drin gwastraff, e.e., anafiadau gan nodwyddau, straeniau cefn a achosir gan ormod o symud â llaw a haint posibl gan bathogenau fel tetanws.

Ar safleoedd mwy, efallai y byddwch am hurio neu brynu peiriant bwndelu i gywasgu deunyddiau fel deunydd pacio cardbord. Bydd angen ichi wirio a yw eich casglwr yn fodlon â hyn ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar bwysau’r bwndeli y gallech eu cynhyrchu. Efallai bydd eich contractwr yn gallu darparu peiriant bwndelu a hyfforddiant. Os ydych yn defnyddio peiriant bwndelu, efallai y bydd angen ichi gofrestru “esemptiad gwastraff” gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Er mwyn cadw biniau ailgylchu yn rhydd rhag halogiad, ystyriwch ddarparu gwybodaeth ychwanegol i gleientiaid ac ymwelwyr. Darparwch wybodaeth ar eich gwefan ac fel rhan o'r pecyn croeso a ddarperir i ymwelwyr. Os ydych yn gweithredu lleoliad sy'n cael ei logi, fel neuadd bentref, gallech gynnwys y wybodaeth fel rhan o'ch telerau defnyddio. Gofynnwch i ddefnyddwyr leihau gwastraff, trwy beidio â defnyddio eitemau tafladwy fel platiau, cyllyll a ffyrc, cwpanau, ailgylchu poteli, tuniau, papur a phlastigau trwy ddefnyddio'r biniau a'r bagiau sydd ar gael yn y neuadd.

Ar gyfer eiddo sydd â mannau allanol mawr megis adeiladau hanesyddol gyda pharciau a gerddi cysylltiedig, meysydd sioe neu stadia chwaraeon, bydd angen codi sbwriel. Bydd lefel y casglu sbwriel, ei amlder a'i hyd yn dibynnu i raddau helaeth ar natur a lefel defnydd y gofod. Hyfforddwch ac arfogwch staff a rhoi offer amddiffynnol priodol iddynt os ydynt yn ymgymryd â dyletswyddau codi sbwriel neu wagio biniau. Yn dilyn asesiad risg, sicrhewch eu bod yn gwybod beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu i leihau halogiad. Ystyriwch faint y cynwysyddion yn enwedig y rhai ar gyfer gwastraff bwyd, sy’n ddwys, er mwyn lleihau’r risgiau codi a chario i weithwyr sy’n gwagio cynwysyddion i finiau masnachol mwy.

Os ydych chi'n llogi eich eiddo yn rheolaidd ar gyfer digwyddiadau dan do neu awyr agored, ffeiriau, cyngherddau, marchnadoedd a gwyliau dylech ddarllen ein Canllaw ar gyfer trefnwyr digwyddiadau awyr agored a gwyliau.