Adnoddau
Ysgolion:
Lansiodd Cymru yn Ailgylchu ymgyrch ailgylchu mewn ysgolion ym mis Medi 2023 ac mae’n cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cyngor ac adnoddau i fachu diddordeb disgyblion a rhoi ailgylchu ar waith.
Mae EcoSgolion yn rhaglen fyd-eang a gaiff ei darparu yng Nghymru gan Cadw Cymru’n Daclus. Cynlluniwyd y rhaglen i annog ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i gymuned eu hysgol.
Mae Let’s Go Zero yn ymgyrch newid hinsawdd ar gyfer y DU gyfan i helpu ysgolion fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Mae’r ymgyrch yn darparu gwybodaeth, adnoddau, astudiaethau achos a gweminarau i gefnogi ysgolion.
Prifysgolion:
Mae cefnogaeth ar gyfer sefydliadau addysg uwch a phellach ar gael gan yr EAUC (Environmental Association for Universities & Colleges). Maent yn darparu amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth yn arbennig ar gyfer y sector addysg ôl-16.
Gwasanaeth Bwyd:
Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.
Guardians of Grub – adnoddau ar gyfer y sector bwyd a lletygarwch i helpu lleihau gwastraff bwyd.
Ar gyfer help a chefnogaeth i fusnesau bwyd, yn cynnwys lleoliadau addysg, i gymryd camau wedi’u targedu i weithredu ar leihau gwastraff yn eu gweithrediadau eu hunain, eu cadwyn gyflenwi a chan ddefnyddwyr, mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd yn cynnig camau ymarferol. I weld beth mae eraill wedi’i gyflawni o ddilyn y pecyn adnoddau lleihau gwastraff bwyd gweler Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd.
Ar gyfer unrhyw fwyd nad oes mo’i angen mwyach ond sy’n dda i’w fwyta o hyd, mae’r Surplus food hub yn darparu gwybodaeth ar sut i gynyddu ailddosbarthu gwarged bwyd.
I gael arweiniad ar roi’r gyfraith newydd ar waith mewn lleoliadau gwasanaeth bwyd yn eich ysgolion, colegau a phrifysgolion, gweler hefyd ein Canllaw ar gyfer y Sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd.