Canllawiau ar gyfer
Addysg
Trosolwg

Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd

Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae’n werth ystyried y canlynol:

  • A fydd angen ichi gael casgliadau ar adegau penodol o’r diwrnod neu’r wythnos er mwyn cyfrif am newidiadau yn symiau gwastraff a sicrhau diogelwch y safle. Cofiwch y gall cerbydau casglu gwastraff fod yn beryglus i ddisgyblion neu fyfyrwyr os bydd angen iddynt deithio ar draws ardaloedd sydd â llawer o draffig cerddwyr;

  • A yw’r swm neu’r math o wastraff rydych yn ei greu yn amrywio yn ystod y flwyddyn, er enghraifft, ystyriwch a oes angen casgliadau arnoch yn ystod gwyliau diwedd tymor neu hanner tymor.

  • Beth yw swm neu fath y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu’n rheolaidd? A yw hynny’n newid yn ystod y flwyddyn? Er enghraifft, lleihad dros gyfnod y Nadolig neu wyliau ysgol. Efallai bydd angen i’ch gwasanaeth casglu, yn cynnwys y nifer o finiau a pha mor aml y bydd angen eu gwagio, fod yn hyblyg;

  • Efallai mai ychydig yn aml fydd yn gweithio’n well i chi. Mae’r rhan fwyaf o gasglwyr gwastraff yn cynnig cynwysyddion o wahanol feintiau, yn cynnwys sachau ar gyfer rhai mathau o wastraff. Unwaith y byddwch yn dechrau ailgylchu, efallai y byddwch yn gallu lleihau maint eich biniau gwastraff cyffredinol;

  • Siaradwch gyda’ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd a sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn cydymffurfio a

  • Gallech hefyd gael dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr er mwyn cael y pris gorau a’r gwasanaeth sy’n fwyaf addas i chi.

Os mai ysgol awdurdod lleol ydych chi, mae’n bosibl y bydd trefniadau ar y cyd yn cael eu gwneud ar gyfer yr holl ysgolion yn eich ardal cyngor chi. Mae’r gyfraith yn berthnasol i holl eiddo awdurdodau lleol, felly mae’n bosibl y bydd caffael ar lefel corfforaethol yn digwydd i leihau amser ac ymdrech ar draws amrywiol adrannau neu adeiladau.

Gall sefydliadau yn y sector cyhoeddus ddefnyddio cytundebau contractau fframwaith a gaiff eu caffael gan sefydliadau prynu proffesiynol fel Hwb Caffael Cydweithredol Cymru i gaffael nwyddau a gwasanaethau, gan arbed amser ac ymdrech i chi, ynghyd ag arian o bosibl.

Gall prifysgolion a sefydliadau addysg uwch a phellach ddefnyddio fframweithiau contract a gaiff eu caffael gan Gonsortiwm Prynu Addysg Uwch Cymru neu drwy gytundebau y DU gyfan a sefydlwyd gan Gonsortia Prynu Prifysgolion neu’r UK University Purchasing Consortia (UKUPC), endid a grewydgan yr wyth consortiwm prynu yn y DU sy’n cefnogi caffael cydweithredol o fewn Addysg Uwch a Phellach.