Canllawiau ar gyfer
Addysg
Trosolwg

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

Er mwyn canfod y gwahanol fathau o wastraff y mae eich sefydliad yn ei gynhyrchu, cynhaliwch archwiliad gwastraff.

Ar eich safleoedd, efallai mai dyma’r mannau sy’n fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff:

  • Ffreuturau a cheginau – gwastraff bwyd a deunyddiau pacio;

  • Ystafelloedd staff – gwastraff papur a deunyddiau pacio;

  • Swyddfeydd Cyffredinol – papur;

  • Ystafelloedd dosbarth a mannau gweithio – papur a gwastraff bwyd a

  • Tir allanol fel caeau chwarae ysgolion, campws y coleg neu’r brifysgol – gwastraff bwyd a deunyddiau pacio.

Efallai y bydd sefydliadau addysg hefyd yn cynhyrchu mathau o wastraff peryglus, fel paent, olewau neu gemegau sy’n galw am wasanaeth casglu gwastraff arbenigol.