Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
Mae angen i chi benderfynu a ydych am ddarparu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu ar gyfer eich gwerthwyr neu stondinwyr, neu a fyddwch yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr a stondinwyr fod yn gyfrifol am gael gwared ar eu gwastraff eu hunain. Mae ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn fel trefnydd digwyddiad yn sicrhau eich bod yn gwybod fod yr holl wastraff ac ailgylchu wedi cael ei waredu mewn modd cyfrifol ac yn unol â’r gyfraith newydd. Os penderfynwch mai gwerthwyr a deiliaid stondinau fydd yn gyfrifol am eu gwastraff eu hunain, dylai eich cytundeb gyda nhw gynnwys gofyniad iddynt gydymffurfio â’r gyfraith newydd. Gallai gwneud archwiliad gwastraff fod yn ffordd ddefnyddiol o weld pa fath o wastraff rydych yn ei gynhyrchu. Os ydych wedi cynnal eich digwyddiad o’r blaen, dylech fod yn ymwybodol o’r mathau a symiau o wastraff a fydd yn cael ei gynhyrchu. Defnyddiwch hwn i’ch helpu i feddwl am faint o gynwysyddion y bydd eu hangen arnoch ar gyfer ailgylchu a gwastraff er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith ailgylchu newydd.
Gallai’r meysydd yr ydych yn fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff gynnwys:
Gan ddeiliaid stondinau, arddangoswyr, arlwywyr symudol, a cheginau ar y safle sy’n cynhyrchu bwyd (gwastraff paratoi), deunydd pacio fel metel, gwydr, cardbord, ffilmiau plastig a deunydd lapio
Blaen y tŷ – pecynnau bwyd a bwyd, caniau diod, poteli plastig a gwydr, a chartonau diodydd ac
Ardaloedd cefn y llwyfan, ystafell staff/ystafell fwyta/swyddfa – pecynnau bwyd a bwyd, caniau diod, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, nwyddau trydanol bach, a thecstilau.
Efallai y bydd digwyddiadau hefyd yn cynhyrchu mathau o wastraff peryglus, fel paent, olewau neu gemegau sy’n galw am wasanaeth casglu gwastraff arbenigol.
Os yw eich digwyddiad neu ŵyl yn cael ei chynnal ar dir nad ydych yn berchen arno, gall y tirfeddiannwr wahardd defnyddio mathau penodol o wastraff. Er enghraifft, os yw'r digwyddiad mewn parc neu ar y briffordd, ni fydd rhai tirfeddianwyr yn caniatáu defnyddio gwydr. Os felly, defnyddiwch y telerau ac amodau yn eich cytundebau masnachwr neu arlwyo i atal defnyddio eitemau gwaharddedig, a mynnu bod dewisiadau eraill fel pecynnau y gellir eu hailddefnyddio neu eu hail-lenwi yn cael eu defnyddio yn lle hynny.
Os yw’ch digwyddiad ar dir cyhoeddus neu ar y briffordd gyhoeddus, mae’n debygol y byddwch yn gyfrifol am symud yr holl wastraff a chasglu sbwriel ar ôl y digwyddiad, sy’n golygu mai chi fydd yn gyfrifol am gosbau os na chaiff yr ardal ei gadael yn lân ac yn daclus wedyn. Gwiriwch delerau ac amodau eich trwydded digwyddiad, cytundeb, prydles, neu drwydded i benderfynu ar eich cyfrifoldebau.
Trefnwyr digwyddiadau sy’n gyfrifol am asesu risgiau sy'n gysylltiedig â storio, trin neu ddefnyddio gwastraff a rhoi mesurau rheoli effeithiol ar waith i osgoi a rheoli unrhyw risgiau a nodwyd. Gallai’r peryglon sy’n gysylltiedig â rheolaeth gwastraff gwael mewn digwyddiadau gynnwys:
Croniadau o wastraff sy’n rhwystro mynediad brys neu lwybrau dianc, sy’n achosi peryglon baglu neu dân ac yn denu fermin – gallwch leihau risgiau iechyd a drwy sicrhau bod mannau storio gwastraff wedi’u lleoli i ffwrdd o ffynonellau fflamadwy a bod deunyddiau fflamadwy fel cardbord yn cael eu storio mewn cynwysyddion wedi’u selio neu ddiogel;
Man storio gwastraff amhriodol ac amseroedd casglu – dewch o hyd i fan (neu fannau) storio gwastraff addas gyda mynediad cyhoeddus cyfyngedig sy’n atal cerbydau casglu gwastraff rhag dod ar draws ymwelwyr. Ystyriwch fesurau lliniaru cymesur sy'n cyd-fynd â maint a graddfa eich digwyddiad ac
Anafiadau i weithwyr o ganlyniad i drin gwastraff, er enghraifft, anafiadau gan nodwyddau, straeniau cefn a achosir gan ormod o symud â llaw, a haint posibl gan bathogenau fel tetanws.