Gwastraff bwyd a hylendid
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu arweiniad sy’n golygu bod angen ichi:
storio bwyd mewn cynwysyddion y gellir eu selio sydd yn:
soled, a digon cryf i ddal gwastraff bwyd,
mewn cyflwr da – h.y. heb ddifrod neu holltau a allai alluogi plâu i gyrraedd y gwastraff neu achosi gollyngiadau; ac
yn hawdd eu glanhau a’u diheintio.
symud gwastraff bwyd a sbwriel arall o ardaloedd cyn gynted â phosibl a
bod â digon o gyfleusterau storio gwastraff i storio a gwaredu gwastraff bwyd a sbwriel arall i’w cadw’n lân.
Sicrhewch fod unrhyw newidiadau a wnewch yn cael eu cynnwys yn eich Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd.
Os yw eich casglwr gwastraff bwyd yn caniatáu ichi ddefnyddio bagiau leinio compostadwy, sicrhewch fod eich bagiau leinio yn cydymffurfio â BS EN 13432. Mae’r safon hwn yn golygu bod yr holl wastraff bwyd a gaiff ei anfon i’w brosesu’n fasnachol yn gorfod bodloni’r safonau iawn.
Cyfeiriwch at ein canllaw ar gyfer y sector lletygarwch am ragor o syniadau ar ailgylchu gwastraff bwyd.