Ymgysylltu ag ymwelwyr, masnachwyr neu werthwyr a staff
Syniadau hyfforddi staff:
Arfogwch staff a gwirfoddolwyr ag offer amddiffynnol priodol iddynt ar gyfer ymgymryd â dyletswyddau codi sbwriel neu wagio biniau yn ystod y digwyddiad;
Sicrhewch eu bod yn gwybod beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu i leihau halogiad;
Darparwch gyfarwyddiadau clir ar yr hyn y dylent ei wneud gyda gwahanol ffrydiau gwastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy i'ch helpu i gwrdd â'ch rhwymedigaethau ailgylchu newydd. Mae hyn yn cynnwys nodi risgiau a sut i’w lliniaru;
Darparwch hyfforddiant i weithwyr parhaol, tymhorol a dros dro. Defnyddiwch hyfforddiant sefydlu i sicrhau bod dechreuwyr newydd yn gallu ailgylchu o'r diwrnod cyntaf, gyda hyfforddiant rheolaidd a nodiadau atgoffa ar gyfer yr holl weithwyr;
Ystyriwch faint y cynwysyddion, yn enwedig y rhai ar gyfer gwastraff bwyd, er mwyn lleihau’r risgiau codi a chario i unrhyw un sy’n gwagio cynwysyddion i finiau mwy;
Anogwch staff i ddweud wrthych sut mae pethau’n gweithio trwy gydol y digwyddiad a gwnewch newidiadau yn ôl yr angen a
Ceisiwch adborth gan y staff ar ôl y digwyddiad i nodi a gweithredu ar unrhyw welliannau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
Ymgysylltu ag ymwelwyr, masnachwyr neu werthwyr a staff
Os ydych yn cymryd cyfrifoldeb am reoli gwastraff ar gyfer gwerthwyr a stondinwyr, sicrhewch eu bod yn deall eu cyfrifoldebau a’u trefniadau ar gyfer ailgylchu a rheoli gwastraff a rhowch ddigon o gapasiti biniau iddynt sicrhau y gallant ailgylchu fel sy’n ofynnol dan y gyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd.
Mae'n syniad da hyrwyddo'r gwasanaethau ailgylchu digwyddiadau i ymwelwyr yn y deunydd gwybodaeth a hyrwyddo cyn y digwyddiad. Gellir cynnwys hyn hefyd mewn unrhyw negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth sydd ar gael yn ystod y digwyddiad ar-lein neu ar fyrddau arddangos digidol yn y digwyddiad.
Ar ôl eich digwyddiad, gofynnwch i'ch casglwr gwastraff ac ailgylchu am wybodaeth ar faint o wastraff gafodd ei gynhyrchu a’i ailgylchu. Defnyddiwch y wybodaeth hon i adolygu sut y gallech gynyddu ailgylchu mewn digwyddiadau yn y dyfodol ac ystyriwch osod targedau i leihau gwastraff neu ailgylchu mwy. Yna gellir rhannu unrhyw lwyddiannau gyda rhanddeiliaid eich digwyddiad, e.e. cymunedau lleol, a gyda masnachwyr a gwerthwyr, ar bwysigrwydd eu rhan yn y llwyddiant.