Canllawiau ar gyfer
Lleoliadau preswyl
Trosolwg

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i leihau eich gwastraff:

  • Rhoddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim. Mae canllaw ar gael ar Sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd;

  • Defnyddiwch ddulliau marchnata di-bapur;

  • Prynwch nwyddau eilgylch, nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio pan bynnag fo’n bosibl a

  • Darparwch ffynhonnau dŵr i staff a phreswylwyr eu defnyddio a defnyddiwch gwpanau, llestri a chyllyll a ffyrc ailddefnyddiadwy.

Efallai y bydd rhai costau cychwynnol ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn ond gallai cynyddu faint rydych yn ei ailgylchu leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor canolig i’r tymor hir.