Canllawiau ar gyfer
Lleoliadau preswyl
Trosolwg

Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd

Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae’n werth ystyried y canlynol:

  • A fydd angen ichi gael casgliadau ar adegau penodol o’r diwrnod neu’r wythnos er mwyn cyfrif am newidiadau yn symiau gwastraff a sicrhau diogelwch y safle. Cofiwch y gall cerbydau casglu gwastraff fod yn beryglus i breswylwyr sy’n agored i niwed os bydd angen iddynt deithio ar draws ardaloedd sydd â llawer o draffig cerddwyr;

  • Beth yw swm neu fath y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu’n rheolaidd? A yw hynny’n newid yn ystod y flwyddyn? Er enghraifft, cynnydd ar adegau pan fyddwch o bosibl yn lletya cleientiaid neu breswylwyr ychwanegol. Efallai bydd angen i’ch gwasanaeth casglu, yn cynnwys y nifer o finiau a pha mor aml y bydd angen eu gwagio, fod yn hyblyg;

  • Efallai mai ychydig yn aml fydd yn gweithio’n well i chi. Mae’r rhan fwyaf o gasglwyr gwastraff yn cynnig cynwysyddion o wahanol feintiau, yn cynnwys sachau ar gyfer rhai mathau o wastraff. Unwaith y byddwch yn dechrau ailgylchu, efallai y byddwch yn gallu lleihau maint eich bin gwastraff cyffredinol;

  • Os nad oes gennych lawer o le ar gyfer cynwysyddion y tu allan, a allech rannu biniau gyda busnesau eraill i helpu lleihau costau a lle? Cofiwch, ni ellir storio cynwysyddion gwastraff ar briffyrdd cyhoeddus rhwng casgliadau;

  • Siaradwch gyda’ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd a sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn cydymffurfio a

  • Gallech hefyd gael dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr er mwyn cael y pris gorau a’r gwasanaeth sy’n fwyaf addas i chi.

Os mai cartref dan reolaeth awdurdod lleol ydych chi, mae’n bosibl y bydd trefniadau ar y cyd yn cael eu gwneud ar gyfer yr holl sefydliadau tebyg yn eich ardal awdurdod lleol. Mae’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn berthnasol i holl eiddo awdurdodau lleol, felly mae’n bosibl y bydd caffael ar lefel corfforaethol yn digwydd i leihau’r amser ac ymdrech mae’n ei gymryd ar draws amrywiol adrannau neu adeiladau.

Gall sefydliadau yn y sector cyhoeddus ddefnyddio cytundebau contractau fframwaith a gaiff eu caffael gan sefydliadau prynu proffesiynol fel GwerthwchiGymru gaffael nwyddau a gwasanaethau, gan arbed amser ac ymdrech i chi, ynghyd ag arian o bosibl. Mae’r Eastern Shires Purchasing Organisation (ESPO) yn darparu fframwaith ar gyfer caffael gwasanaethau casglu gwastraff, ailgylchu sych a gwastraff bwyd drwy gyfrwng Fframwaith 379_21; ac mae’r YPO (Yorkshire Purchasing Organisation) yn darparu amrywiaeth o fframweithiau dan ei adran Rheoli Cyfleusterau ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau fel leinin y gellir eu compostio, cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu dan do ac awyr agored, biniau olwynion a gwasanaethau ailgylchu.