Canllawiau ar gyfer
Lleoliadau preswyl
Trosolwg

Pam mae angen ichi ailgylchu?

… a beth i’w ailgylchu?

  • Papur a cherdyn;

  • Gwydr;

  • Metel, plastig, a chartonau (a deunyddiau eraill tebyg, er enghraifft, cwpanau coffi);

  • Bwyd – unrhyw safle sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd mewn saith diwrnod yn olynol;

  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb eu gwerthu a

  • Tecstilau heb eu gwerthu.

Mae’r cyfyngiad 5kg o wastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw gyfnod o saith diwrnod.  Os ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd mewn unrhyw gyfnod o saith niwrnod, yna mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno ar wahân i’w gasglu. Os nad ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos yna dylid monitro hyn i gyfrif am unrhyw newidiadau ar y safle, er enghraifft cynnydd mewn lefelau staffio neu ymwelwyr.  

Dim ond ar gyfer gwastraff tebyg i wastraff o’r cartref a gynhyrchir gan weithleoedd y mae’r gyfraith hon yn berthnasol, hynny yw, gwastraff a geir mewn cartrefi fel arfer ac a gaiff ei gasglu’n arferol o ymyl y ffordd.   

Mae rhestr lawn o ddeunyddiau ailgylchadwy y dylid eu cyflwyno ar wahân i’w hailgylchu ar gael yma: Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer.

Fel cynhyrchydd gwastraff, mae’n ofynnol ichi gynhyrchu nodyn trosglwyddo gwastraff. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, bydd eich casglwr gwastraff yn gwneud hyn i chi. Dylech ei wirio’n ofalus i sicrhau bod y disgrifiad o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu’n gywir. Ni chaiff eich casglwr gwastraff anfon unrhyw un o’r deunyddiau wedi’u gwahanu i dirlenwi neu losgi. Gallech ystyried gofyn i'ch casglwr gwastraff am dystiolaeth reolaidd o gyrchfannau prosesu terfynol eich deunyddiau a wahanwyd.

Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd gwaredu unrhyw symiau o wastraff bwyd i lawr y sinc neu’r draen i garthffosydd. Mae’n golygu na chewch ddefnyddio unedau mwydo mewn sinciau sy’n torri neu’n malu gwastraff bwyd a’i anfon i lawr y draen.

Er nad yw’n anghyfreithlon ichi gael uned mwydo, peiriant dad-ddyfrio, neu dechnoleg gwaredu gwastraff bwyd arall tebyg, mae’n anghyfreithlon ichi eu defnyddio i anfon gwastraff bwyd i garthffosydd.

Bydd yn rhaid i holl ddeiliaid gweithleoedd gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy ar wahân yn gywir i’w casglu gan eu dewis o gasglwr gwastraff. Mae hyn yn wir p’un a ydych yn berchennog, yn rhentu, neu’n prydlesu eich eiddo.