Canllawiau ar gyfer
Digwyddiadau awyr agored
Trosolwg

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Ymhlith y ffyrdd y gallwch leihau faint o wastraff a gynhyrchir yn eich digwyddiad mae:

  • Darparu e-docynnau, canllawiau electronig a mapiau i ymwelwyr;

  • Nodi y dylid defnyddio cynhyrchion eilgylch neu y gellir eu hailgylchu yn yr amodau masnachu ar gyfer deunyddiau hyrwyddo neu ar gyfer cynhyrchion gwasanaeth bwyd;

  • Annog arlwywyr neu werthwyr i ddarparu cwpanau neu wydrau y gellir eu hail-lenwi, sefydlu cynllun blaendal a dychwelyd ar gyfer cynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio, neu annog mynychwyr i ddod â’u cwpanau eu hunain gan gynnig gostyngiad ar ddiodydd;

  • Darparu gorsafoedd ail-lenwi ar gyfer dŵr yfed;

  • Cyfyngu ar ba nwyddau y caiff ymwelwyr, cyflenwyr, gwerthwyr neu arlwywyr ddod â nhw i’r lleoliad. Annog peidio â defnyddio eitemau untro fel pecynnau saws, llaeth, siwgr neu goffi unigol ac

  • Annog arlwywyr i roddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim ar ddiwedd y digwyddiad. Mae canllaw ar gael ar Sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd;

Dewis sector arall