Canllaw ailgylchu yn y gweithle
Cyfleusterau hamdden a’r sector adloniant

Help i’ch busnes ar bob cam o’r siwrne.

Canllawiau ar gyfer y sector cyfleusterau hamdden a’r sector adloniant

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun.

Mae’r canllaw hwn ar gyfer llety gwyliau, parciau/cyrchfannau gwyliau, gwersyllfaoedd, parciau carafanau, gwely a brecwast, a gwestai.

Mae hefyd yn cynnwys canolfannau cymunedol a neuaddau pentref, lleoliadau adloniant, a chwaraeon (yn cynnwys canolfannau hamdden), meysydd a stadia chwaraeon, meysydd sioe, adeiladau treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd.

Mae’r canllaw yn berthnasol i sefydliadau sy’n gweithredu naill ai gydol y flwyddyn neu’n dymhorol, a boed hwy’n gweithredu o fewn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector.

Trosolwg o’r cynnwys

Canllaw i feysydd carafanau a meysydd gwersylla

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i sefydliadau sy’n gweithredu naill ai gydol y flwyddyn neu’n dymhorol, boed hwy’n rhan o’r sector preifat, y sector cyhoeddus, neu’r trydydd sector.

Pam mae angen ichi ailgylchu?

O 6 Ebrill 2024, bydd yn rhaid i holl weithleoedd gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i’w hailgylchu.

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

Er mwyn deall y gwahanol fathau o wastraff y mae eich gweithle yn ei gynhyrchu, gwnewch archwiliad gwastraff trwy gerdded trwy'r gwahanol fannau yn eich eiddo.

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch.

Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd

Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru i sicrhau eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae’s cyhoeddiad hwn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o eitemau y mae’n rhaid eu hailgylchu.

Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd

Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae’n werth ystyried y canlynol:

Lle ar gyfer eich biniau?

It’s important that you consider where and how you will store your waste and recycling.

Gwastraff bwyd a hylendid

Mae canllawiau ar wastraff bwyd i’ch helpu i waredu eich gwastraff yn gywir er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith Dyletswydd i Ofalu bresennol.

Ymgysylltu â chleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti

Defnyddiwch ein hadnoddau wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr, cleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti.

Adnoddau

Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol

Rydych yn edrych ar ganllawiau ar gyfer y sector cyfleusterau hamdden a’r sector adloniant ar hyn o bryd