Canllawiau ar gyfer
Manwerthu
Trosolwg

Adnoddau

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

Os ydych yn gwerthu offer trydanol ac electronig (EEE) mae'r rheoliadau offer trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) ei gwneud yn ofynnol i chi ddarparu ffordd i'ch cwsmeriaid gael gwared ar eu hen offer trydanol ac electronig cartref pan fyddwch yn gwerthu fersiwn newydd o'r un eitem iddynt, mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol waeth sut rydych chi'n gwerthu'r cynhyrchion h.y., ar y rhyngrwyd neu drwy siop.

Mae’r Rheoliadau Batris hefyd yn ei gwneud yn ofynnol ichi gynnig gwasanaeth casglu neu ‘ddychwelyd’ ar gyfer gwastraff hen fatris os ydych chi’n gwerthu neu’n cyflenwi lefel gyfatebol i werthu un pecyn o 4 batri AA fesul diwrnod dros gyfnod o flwyddyn. Os ydych chi'n gwerthu mwy na hyn mae'n rhaid i chi gael man casglu yn eich eiddo. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol p'un a ydych yn rhedeg siop, cadwyn o siopau neu'n gwerthu batris ar-lein, drwy'r post neu dros y ffôn.

Reduce, reuse and recycle | Green Street | Planet Friendly Retail – Mae Green Street wedi cynhyrchu canllaw Cyfeillgar i’r Blaned i annog stryd fawr wyrddach a mwy cynaliadwy.

I gael arweiniad i fanwerthwyr dillad ar sut i sefydlu cynllun cymryd yn ôl ar gyfer dillad nad oes eu heisiau arnynt, ewch i wefan WRAP a’r Retailer clothing take back guide fel rhan o waith Textiles 2030.

Mae canllawiau pellach ar gael ar gyfer: Busnesau bach a chanolig, gwasanaethau lletygarwch a bwyd, cyfleusterau adloniant a hamdden, sefydliadau addysgol a digwyddiadau awyr agored.

Dewis sector arall