Lle ar gyfer eich biniau?
Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:
yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff;
ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa;
yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy’r ydych yn eu cynhyrchu a’u storio rhwng casgliadau;
ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid;
yn agos i ble caiff y gwastraff ac ailgylchu ei greu;
yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd ac
yn cael eu diogelu gyda chaeadau sy’n cau’n sownd, ac nad ydynt yn caniatáu i wastraff neu ailgylchu ddianc.
Mae’n bwysig:
labelu eich biniau ailgylchu i osgoi halogiad. Gallwch ddefnyddio labeli oddi dudalen Adnoddau ac
atal dŵr rhag cael ei halogi gan wastraff wedi’i storio.
Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi problemau rheoli plâu.
Ar safleoedd mwy, efallai y byddwch am hurio neu brynu peiriant bwndelu i gywasgu deunyddiau fel deunydd pacio cardbord. Bydd angen ichi wirio bod eich casglwr yn fodlon â hyn ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar bwysau’r bwndeli y gallech eu cynhyrchu. Efallai bydd eich contractwr yn gallu darparu peiriant bwndelu a hyfforddiant. Os ydych yn defnyddio peiriant bwndelu, efallai y bydd angen ichi gofrestru “esemptiad gwastraff” gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mwy o ganllawiau ar gyfer y sector lleoliadau preswyl
- Canllaw ar gyfer cartrefi gofal cofrestredig yng Nghymru
- Pam mae angen ichi ailgylchu?
- Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
- Atal gwastraff yn y lle cyntaf
- Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd
- Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd
- Gwastraff bwyd a hylendid
- Ymgysylltu â gweithwyr, cleientiaid a phreswylwyr
- Adnoddau