Canllaw ailgylchu yn y gweithle
Digwyddiadau awyr agored

Help i’ch busnes ar bob cam o’r siwrne.

Canllawiau ar gyfer y sector digwyddiadau awyr agored

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun.

Mae’n berthnasol i ddigwyddiadau bach dros dro sy’n cael eu cynnal am gyfnod o oriau yn ogystal â digwyddiadau mwy sy’n cael eu cynnal am rai dyddiau, a p’un a ydynt yn cynnwys darpariaeth gwersylla ai peidio. Mae’r gyfraith yn berthnasol boed y digwyddiad neu ŵyl yn cael ei chynnal ar dir agored cyhoeddus fel mewn parciau, marchnadoedd, priffyrdd (pan roir caniatâd i gau’r ffordd) neu ar dir preifat.

Trosolwg o’r cynnwys

Pam mae angen ichi ailgylchu?

O 6 Ebrill 2024, bydd yn rhaid i holl weithleoedd gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i’w hailgylchu.

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

Os nad ydych erioed wedi cynnal eich digwyddiad o'r blaen, meddyliwch am y mathau o wastraff a fydd yn cael eu cynhyrchu. Os bydd gwerthwyr bwyd neu ddiodydd a stondinwyr ar y safle, mae’n debygol mai gwastraff bwyd a deunydd pacio fydd y gwastraff mwyaf amlwg a gynhyrchir yn eich digwyddiad.

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch.

Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd

Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru i sicrhau eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae’s cyhoeddiad hwn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o eitemau y mae’n rhaid eu hailgylchu.

Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd

Trefnwch wasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu ymhell cyn eich digwyddiad i sicrhau y gall casglwr ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch; dylai hyn fod yn rhan o'ch cynllunio digwyddiad cychwynnol.

Lle ar gyfer eich biniau?

Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu.

Gwastraff bwyd a hylendid

Mae canllawiau ar wastraff bwyd i’ch helpu i waredu eich gwastraff yn gywir er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith Dyletswydd i Ofalu bresennol.

Ymgysylltu ag ymwelwyr, masnachwyr neu werthwyr a staff

Defnyddiwch ein hadnoddau wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr, cleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti.

Adnoddau

Cyngor pellach i’r sector digwyddiadau

Rydych yn edrych ar ganllawiau ar gyfer y sector digwyddiadau awyr agored ar hyn o bryd